Pencadlys Barclays yn Llundain (C Ford CCA 3.0)
Fe fydd Banc Barclays yn rhoi ychydig yn llai o daliadau bonws i’w gweithwyr druta’, er bod elw’r banc wedi codi.
Fe gyhoeddodd y penaethiaid bod y banc wedi gwneud elw o £6.1 biliwn yn ystod 2010, cynnydd o 32% ar y flwyddyn gynt.
Er hynny, fe fydd y taliadau bonws i weithwyr yn syrthio 7% – yn ôl y Prif Weithredwr, Bob Diamond, roedd trafodaethau rhwng y banciau a’r Llywodraeth wedi dylanwadu ar hynny.
Ond mae un o’r undebau sy’n cynrychioli gweithwyr cyffredin y cwmni wedi condemnio’r taliadau gan ddweud eu bod nhw’n “ffiaidd”.
Rhwng cyflogau a thaliadau bonws a oedd wedi eu gohirio, fe fydd y banc yn talu £11.9 biliwn i’w weithwyr, cynnydd o 20%. Fe fydd Bob Diamond ei hun yn derbyn tua £9 miliwn.
“Wrth wneud ein penderfyniadau terfynol, roedd rhaid i ni bwyso ein cyfrifoldebau’n ofalus yn erbyn yr angen i sicrhau bod ein penderfyniadau’n fasnachol mewn maes byd-eang cystadleuol iawn,” meddai.
‘Cywilyddus’
Ond, yn ôl Len McCluskey, o undeb Unite, roedd y penderfyniad yn un “cywilyddus”.
Roedd y gweithwyr mwya’ cefnog yn y banciau mawr yn cael mwy na 100 gwaith yn fwy o gyflog na’r gweithwyr ar y lefel isa’, meddai.
“Mae’r taliadau gormodol yma’n lledu’r bwlch rhwng y rhai ar y brig a’r gweithwyr cyffredin sy’n stryffaglu i dalu eu biliau.”
Doedd Barclays ddim yn un o’r banciau a gafodd arian cyhoeddus i’w gynnal yn anterth yr argyfwng ariannol.