Hans ac Eva Rausing
Mae disgwyl i ŵr Eva Rausing ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o rwystro ei chorff rhag cael ei gladdu.

Cafodd corff y fam i bedwar ei ganfod ddydd Llun ar ôl i’r heddlu arestio ei gŵr Hans Rausing – etifedd cyfoeth cwmni Tetra Pak o Sweden  – ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Cafodd Eva Rausing ei chanfod yn yr ystafell wely yn y tŷ moethus roedd hi’n ei rannu gyda’i gŵr yn Cadogan Place, Chelsea yn Llundain.

Mae’r heddlu yn trin ei marwolaeth fel un “diesboniad” a methodd archwiliad post-mortem â sefydlu achos ei marwolaeth yn ffurfiol. Cafodd cwest i’w marwolaeth ei agor ddydd Gwener.

Bydd Hans Rausing, 49 oed, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Gorllewin Llundain.

Teyrnged tad

Dywedodd tad Eva Rausing, Tom Kemeny, bod ei ferch wedi gohirio ei thriniaeth gyffuriau er mwyn helpu ei gŵr, Hans.

“Pan fu farw ei phrif bryder oedd diogelwch ei gŵr, ac fe ataliodd ei thriniaeth hi ei hun er mwyn dychwelyd i Lundain gyda’r bwriad o fynd ag e gyda hi nôl i Galiffornia, ond heb lwyddiant.

“Roedd Eva a Hans Kristian yn gwpwl cariadus a oedd wedi cyfrannu at fywydau miloedd o bobol trwy eu gwaith elusennol.

“Fe frwydron nhw yn erbyn eu bwganod ac fe gefnogon nhw ei gilydd ac fe fydd colli Eva yn golled ofnadwy i Hans Kristian, a fydd wastad yn annwyl i ni.”