Mae cyrff tri o blant a’u tad, a ddiflannodd wythnos ddiwethaf, wedi cael eu darganfod mewn coedwig yn Sir Amwythig.

Dywed yr heddlu yn Sir Gaerloyw bod swyddogion oedd yn chwilio am Ceri Fuller a’i dri phlentyn, a ddiflannodd o’i gartref yn Milkwall ger Coleford wythnos ddiwethaf, wedi darganfod pedwar o gyrff ger Pontesbury.

Cafwyd hyd i gar Ceri Fuller, 35, gerllaw.

Er nad ydy’r cyrff wedi cael eu hadnabod yn swyddogol mae teulu Ceri Fuller wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael cymorth gan yr heddlu.

Fe fydd ymchwiliad i’r marwolaethau yn cael ei gynnal gan heddlu Gorllewin Mercia.

Fe adawodd Ceri Fuller ei gartref ddydd Iau gyda’i fab Sam, 12, a’i ferched Becka, 10 a Charlotte, 6. Roedd yn gyrru car Land Rover Freelander coch.

Roedd yr heddlu wedi gwneud apêl am wybodaeth ond cafwyd hyd i gyrff y pedwar tua 10 bore ma.