Fe fydd cannoedd o blismyn ychwanegol wrth law ym Melffast heddiw rhag ofn y bydd helyntion ar ddiwedd tymor Gorymdeithiau’r Urdd Oren Brotestannaidd.

Mae pryder arbennig am un orymdaith fawr sy’n mynd trwy ardal Babyddol yr Ardoyne ac mae Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Owen Paterson, wedi apelio am drefn.

Y 12fed o Orffennaf yw pinacl tymor y gorymdeithiau ac mae helynt wedi bod o’r blaen tros yr orymdaith sy’n mynd hyd ffordd y Crumlin Road yn yr Ardoyne.

Eleni mae’r Comisiwn Gorymdeithiau, sy’n ceisio creu trefn i gadw’r heddwch, wedi dweud bod rhaid i’r orymdaith ddod i ben erbyn 4 y prynhawn ond mae’r Urdd Oren wedi rhybuddio nad yw hynny’n bosib.

Maen nhw wedi addo bod ganddyn nhw gynllun i sicrhau gorymdaith heddychlon ond dyw’r manylion ddim wedi’u cyhoeddi.

Mae gwleidyddion a phenaethiaid yr heddlu wedi rhybuddio rhag trais gan fynnu y byddai helynt yn gwneud drwg i enw da Gogledd Iwerddon.