Mae miloedd o gwsmeriaid O2 yn dal heb allu defnyddio eu ffonau symudol heddiw ar ôl i’r rhwydwaith gael trafferthion ddoe.

Bu peirianwyr yn gweithio drwy’r nos i geisio trwsio’r nam ond mae nifer o gwsmeriaid yn wynebu ail ddiwrnod heb allu gwneud na derbyn galwadau.

Mae gwasanaeth negeseuon tecst y rhwydwaith hefyd wedi ei effeithio  ac mae rhai cwsmeriaid wedi cael trafferthion gyda’r we hefyd.