Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i daliadau llwgr i’r heddlu a’r gwasanaethau cyhoeddus wedi arestio dau newyddiadurwr.

Cafodd un dyn 34 oed ei arestio yn ne ddwyrain Llundain a’r llall, sy’n 37 oed, ei arestio yng Nghaint  fel rhan o Ymchwiliad Elveden, gan yr Heddlu Metropolitan.

Mae Trinity Mirror wedi cadarnhau mai un o’r dynion yw newyddiadurwr y Sunday Mirror Justin Penrose. Y newyddiadurwr arall sydd wedi ei arestio yw Tom Savage, dirprwy olygydd newyddion y Daily Star Sunday.