Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth un o’r gwragedd mwyaf cyfoethog ym Mhrydain wedi arestio dyn.

Credir mai Hans Kristian Rausing, aelod o’r teulu sy’n berchen Tetra Pak, y cwmni cartonau diodydd, sydd wedi cael ei arestio ar ôl i gorff ei wraig, Eva Rausing, gael ei ddarganfod yng nghartref y cwpl yn Cadogan Place yn Llundain.

Mae’n debyg bod Hans Kristian Rausing wedi cael ei gadw yng ngorsaf yr heddlu yn Llundain ond ei fod bellach wedi ei symud i ganolfan feddygol i gael triniaeth, yn ôl yr heddlu.

Mae disgwyl i Hans Kristian Rausing etifeddu busnes ei dad sy’n werth biliynau o bunnau.