Bob Diamond
Mae cyn bennaeth banc Barclays, Bob Diamond, wedi cytuno i beidio â derbyn bonws a chyfranddaliadau gwerth tua £20 miliwn, ond fe fydd yn dal i gael ei gyflog o £2m.
Dywedodd cadeirydd y banc, Marcus Agius wrth Aelodau Seneddol heddiw mai pendefyniad Bob Diamond oedd rhoi’r gorau i’w fonws a thaliadau eraill.
Fe ymddiswyddodd Bob Diamond wythnos ddiwethaf yn dilyn yr helynt am ddylanwadu ar gyfraddau llog Libor. Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y penderfyniad yn “caniatau i’r banc symud ymlaen.”