Mae Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain yn paratoi am eu cweir seneddol fwya’ eto, wrth i ASau bleidleisio tros ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Mae disgwyl y bydd tua 70 o aelodau Ceidwadol yn pleidleisio’n erbyn cynigion y Llywodraeth i dorri nifer aelodau’r Arglwyddi a sicrhau bod y rhan fwya’n cael eu hethol.

Ond, yn ôl sylwebyddion, arwyddocâd gwleidyddol y bleidlais sydd bwysica’, gan y byddai colli’n gwanhau’r berthynas rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae tri AS Ceidwadol o Gymru – Simon Hart, Alun Cairns a Guto Bebb – ymhlith y t0 gwrthryfelwyr a anfonodd lythyr at y Prif Weinidog ddoe.

Fe fyddai hynny a gwrthwynebiad ASau Llafur yn ddigon i guro’r Llywodraeth ac yn ddyrnod i’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, sydd wedi gwthio’r newid ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Y cefndir

Fe fyddai’r diwygio’n golygu torri nifer yr Arglwyddi i 450 gydag 80% o’r rheiny’n cael eu hethol yn uniongyrchol.

Y gred yw bod rhai o’r gwrthryfelwyr yn defnyddio’r bleidlais yn gyfle i roi cic i’w partneriaid yn y Llywodraeth ac i fynegi anfodlonrwydd ehangach gydag arweiniad y Prif Weinidog, David Cameron.

Mae carfan arall wedi cyhoeddi dogfen heddiw yn gofyn am wneud safiad cadarnach tros Ewrop.

Defnyddio sylwadau Hain

Mae’r Llywodraeth wedi cymryd mantais ar sylwadau gan gyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, mewn ymgais i achub y bleidlais.

Mewn cyfweliad ym mhapur y Guardian, roedd Peter Hain wedi awgrymu bod y bleidlais yn gyfle i atal polisïau cyffredinol Llywodraeth y Glymblaid – er ei fod ef o blaid diwygio.

Yn ôl Nick Clegg, roedd hynny’n dangos mai gwir fwriad y blaid Lafur oedd rhoi cnoc i’r Llywodraeth.

Yn y ddadl ddoe, roedd AS Llafur y Rhondda, Chris Bryant, wedi cyhuddo’r Llywodraeth o beidio â rhoi digon o gyfle i ystyried y diwygiadau.