Paul Tucker
Fe fydd Dirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr Paul Tucker yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol heddiw ynglŷn â thrafodaethau a gafodd gyda Barclays am y gyfradd allweddol Libor.

Cafodd Paul Tucker ei lusgo i mewn i’r helynt gan gyn bennaeth Barclays Bob Diamond a ymddiswyddodd wythnos ddiwethaf, ar ôl i’r banc ddylanwadu ar y gyfradd llog sy’n cael ei godi ar fenthyciadau rhwng y banciau.

Roedd Bob Diamond wedi datgelu manylion galwad ffôn rhwng y ddau, lle’r oedd yn ymddangos bod Paul Tucker yn annog y banc i gyflwyno cyfraddau Libor is oherwydd pryderon ymhlith swyddogion Whitehall.

Mae Paul Tucker yn ffefryn i olynu Syr Mervyn King fel Llywodraethwr Banc Lloegr.