Mae Llafur wedi cyhuddo’r Llywodraeth o fethu â mynd i’r afael ag “argyfwng swyddi tymor hir” gwledydd Prydain.

Maen nhw wedi cyhoeddi ffigurau sy’n awgrymu bod cynllun gwaith y Llywodraeth – i helpu pobol sy’n ddi-waith ers cyfnod hir – yn fethiant.

Mae Llafur yn honni bod nifer y bobol o’r fath wedi mwy na dyblu yn ystod y ddwy flynedd ers yr etholiad cyffredinol ac yn cyhuddo’r Llywodraeth o beidio â chydnabod y problemau gyda’r cynllun.

Yn ôl y llefarydd Llafur ar bensiynau a gwaith, Liam Byrne, roedd nifer y bobol oedd yn gadael budd-dal i fynd i waith wedi haneru yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

“Mae’n rhaid i Weinidogion roi’r gorau i guddio a bod yn onest,” meddai. “Ddylen nhw gyhoeddi’r holl wybodaeth am berfformiad y Rhaglen Waith a chyfadde’ bod y cynllun yn methu.”

Gwadu’r honiadau yr oedd y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Chris Grayling, gan gyhuddo Llafur o fod wedi ystumio’r ffigurau yn eu cyfnod mewn grym er mwyn cuddio maint y broblem.

Dyna pam yr oedden nhw fel petaen nhw’n codi’n awr, meddai.