Heineken i iro llwnc sychedigion Olympics Llundain
Mae’r gwaharddiad ar gwrw lleol adeg Olympics Llundain wedi ei gondemnio gan wleidydd sy’n ymgyrchu I achub tafarndai traddodiadol.

Dim ond y lager Heineken o’r Iseldiroedd fydd ar werth yn yr Olympics, sy’n gwbwl groes I bwyslais y Gemau ar Brydeindod, yn ôl y Lib Dem Greg Mulholland.

“Mi fydda hi’n llawer rheitiach cael cwrw o Brydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain, yn hytrach na chwrw o’r Iseldrioedd,” meddai Mulholland.

£4.20 am botel o Heineken

Bydd potel 330ml o Heineken yn costio £4.20 i’r rhai sydd am fynd i weld gwahanol gystadlaethau’r Olympics.