George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi gwrthdaro gyda llefarydd yr wrthblaid Ed Balls yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma wrth drafod cynlluniau ar gyfer ymchwiliad i’r helynt bancio.

Roedd George Osborne wedi cyhuddo Ed Balls o fod yn gysylltiedig â’r helynt yn ymwneud â dylanwadu ar gyfradd llog allweddol, Libor.

Ond mae Ed Balls yn gwadu unrhyw gysylltiad â’r mater a dywedodd bod ymddygiad George Osborne yn dangos pam bod angen ymchwiliad annibynnol i’r helynt.

Mewn cyfweliad â’r Spectator mae George Osborne wedi dweud bod gan y cyn Brif Weinidog Gordon Brown a rhai o’i weinidogion blaenllaw, gan gynnwys Ed Balls, “gwestiynau i’w hateb” ynglŷn â phwysau gafodd ei roi ar Barclays i ostwng y gyfradd Libor yn ystod y wasgfa ariannol.

Ond mae Ed Balls yn mynnu nad oes gwirionedd i’r honiadau.

Mae’r Blaid Lafur wedi cael cefnogaeth Plaid Cymru, yr SNP, DUP, SDLP, Aelod Seneddol y Blaid Werdd Caroline Lucas, a Sylvia Hermon o’r blaid annibynnol, i gynnal ymchwiliad barnwrol.

Os ydy Llafur yn colli’r bleidlais yn y Senedd heddiw, dywedodd Ed Balls y byddai’r blaid yn parhau i ddadlau bod angen ymchwiliad cyhoeddus i’r mater.

Mae Llafur yn mynnu nad fyddai ymchwiliad seneddol yn mynd yn ddigon pell.

Mae cadeirydd pwyllgor dethol y Trysorlys, Andrew Tyrie, wedi mynnu na fydd yn cadeirio ymchwiliad seneddol oni bai bod y pleidiau i gyd yn gytûn ar y mater.

Ond mae’r Canghellor wedi annog Aelodau Seneddol i ddod i gytundeb er mwyn gallu bwrw mlaen gyda’r ymchwiliad mor fuan â phosib.