Poster ymgyrch yn erbyn trais yn y cartref gan Gymorth i Fenywod
Mae un o bob dau o bobol gwledydd Prydain yn gwybod am rywun sydd wedi dioddef o drais yn y cartref, yn ôl arolwg newydd.

Roedd un o bob deg yn dweud eu bod yn amau bod dynes y maen nhw’n ei hadnabod yn cael ei churo, ond dim ond un o bob dau a fyddai’n “debygol iawn” o ymyrryd.

Mae’r ffigurau o bôl ar-lein gan wefan iVillage.co.uk yn cadarnhau’r math o ffigurau sydd yn yr arolwg blynyddol o droseddau yng ngwledydd Prydain.

Yn 2009-10, fe ddangosodd hwnnw bod mwy na miliwn o ferched yng Nghymru a Lloegr wedi diodde’ trais domestig.

“Mae’n ddychryn bod mwy na hanner y bobol yn y pôl yma’n adnabod rhywun sy’n dioddef o drais yn y cartref,” meddai’r gweinidog yn y Swyddfa Gartref, Lynne Featherstone.