David Cameron
Mae’r Prif Weinidog wedi condemnio’r helynt bancio gan ddweud ei fod yn “warthus” bod perchnogion tai wedi gorfod talu cyfraddau llog uwch am eu morgeisi oherwydd bod banciau wedi dylanwadu ar gyfradd Libor.

Serch hynny, mae David Cameron wedi gwrthod cefnogi galwad y Blaid Lafur am ymchwiliad barnwrol i arferion busnes y diwydiant bancio.

Roedd David Cameron yn mynnu bod yn well ganddo gynnal ymchwiliad seneddol a fyddai’n “gyflym ac yn bendant”.

Ond roedd arweinydd Llafur Ed Miliband yn dadlau bod ei anfodlonrwydd i sefydlu ymchwiliad tebyg i Ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn dangos nad oedd yn deall pryder y cyhoedd ynglŷn â’r helynt.

Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio fory ynglŷn â pha fath o ymchwiliad y dylid ei gynnal.