Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Mae bron hanner prif weithredwyr cynghorau yng Nghymru a Lloegr yn ennill mwy o gyflog na’r Prif Weinidog.

Yn Llundain y mae’r cyflog ucha’, lle mae Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Wandsworth yn cael £300,000 y flwyddyn.

Mae llond llaw o brif weithredwyr yng Nghymru’n ennill mwy na £150,000 – Cyngor Dinas Caerdydd sy’n talu fwya’ ar fwy na £176,000 gyda Chyngor Ceredigion ar y gwaelod.

Mae tri arall – Bro Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro – yn talu mwy na chyflog y Prif Weinidog ond mae 15 o’r 22 yng Nghymru’n cael llai na’r cyfartaledd.

Mae’r ffigurau, sydd wedi eu casglu gan gwmni ymchwil yr Income Data Services, yn dangos mai yn ne-ddwyrain Lloegr y mae’r cyflogau mwya’, lle mae prif weithredwyr ar gyfartaledd yn ennill £204,000, o’i gymharu â £159,000 yn ne-orllewin y wlad.

Galw am ostyngiad

Y llynedd, roedd yr Ysgrifennydd Cymunedau Eric Pickles wedi galw ar i brif weithredwyr gymryd gostyngiad cyflog o 5% os oedden nhw’n ennill mwy na £150,000.

O ran cyflog uniongyrchol, £142,000 yw’r tâl i’r Prif Weinidog ond mae’n cael gwerth llawer iawn mwy na hynny mewn buddiannau eraill.