Bob Diamond
Fe fydd cyn-bennaeth Barclays Bob Diamond yn ymddangos gerbron Aelodau Seneddol heddiw i ateb cwestiynau am yr helynt cyfradd llog Libor.

Wrth i’r helynt ddwyshau, mae manylion galwad ffôn sydd wedi cael ei ryddhau wedi codi cwestiynau am gysylltiad dirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, Paul Tucker,  yn y mater ac a oedd wedi annog ymddygiad amhriodol.

Honir bod Paul Tucker wedi dweud wrth Bob Diamond bod “swyddogion yn Whitehall” wedi awgrymu wrtho na ddylai Barclays fod yn adrodd y fath gyfraddau llog uchel sy’n cael eu codi gan fanciau i fenthyg i fanciau eraill.

Fe gyhoeddodd Bob Diamond ddoe ei fod yn ymddiswyddo, ddiwrnod ar ôl i gadeirydd y banc Marcus Agius hefyd gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i’w swydd.

Yn ddiweddarach ddoe, fe ddywedodd  prif swyddog gweithredu’r  banc, Jerry del Missier, ei fod hefyd yn ymddiswyddo.

Roedd Barclays wedi cael dirwy o £290 miliwn wythnos ddiwethaf am geisio dylanwadu ar  gyfradd llog allweddol.

Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ddydd Iau i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad tebyg i Ymchwiliad Leveson i’r diwydiant bancio.

Fe fydd Tŷ’r Cyffredin yn cael cyfle i bleidleisio o blaid cynllun David Cameron i gael pwyllgor o Aelodau Seneddol i gynnal ymchwiliad neu gynnal ymchwiliad barnwrol, yn unol â galwadau arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband.