David Cameron
Fe fydd y Prif Weinidog yn rhoi cynnig arall ar danio’r gefnogaeth i’w syniad o Gymdeithas Fawr.

Fe fydd David Cameron yn defnyddio araith amlwg y bore yma i ddweud eto ei fod wedi ymrwymo’n llwyr i’r syniad fod mudiadau gwirfoddol yn gwneud mwy o waith llywodraeth.

Fe fydd hefyd yn cadarnhau bod arian ar gael i helpu elusennau a mudiadau eraill i gynnig am gytundebau llywodraeth, gan ddweud nad yw ychydig benawdau gwael am wneud iddo newid ei feddwl.

‘Fy nghenhadaeth’

“Y Gymdeithas Fawr yw fy nghenhadaeth mewn gwleidyddiaeth,” meddai David Cameron. “Dyna beth yr ydw i eisiau i ni – fel gwlad – ei chreu. Gyda’n gilydd. A dw i’n mynd i ymladd amdani bob dydd.”

Fe fydd banciau’r stryd fawr yn buddsoddi £200 miliwn ym Manc y Gymdeithas Fawr i sicrhau bod arian ar gael i gynnal y mudiadau.

Archesgob Caerefrog yw’r diweddara’ i ddweud bod angen buddsoddi arian cyhoeddus er mwyn i’r syniad lwyddo.