David Cameron
Fe fydd dyfodol y DU o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn dod o dan y chwyddwydr eto heddiw pan fydd David Cameron yn cael ei holi gan banel o Aelodau Seneddol am effaith argyfwng yr ewro.

Ddoe, roedd y Prif Weinidog wedi awgrymu y gallai pobl y DU bleidleisio mewn refferendwm i benderfynu a ddylid gadael yr UE.

Mae David Cameron dan bwysau gan ASau o fewn ei blaid i gynnal refferendwm yn syth, ond mae’r gwrthdaro yn debygol o achosi tensiynau gyda phartneriaid y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol.