Fe fydd gweinidogion yn caniatáu i gyplau o’r un rhyw ‘briodi’ mewn eglwysi, cyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Sunday Telegraph fe fydd Lynne Featherstone, Gweinidog Cydraddoldeb y Democratiaid Rhyddfrydol, yn newid y ddeddf er mwyn caniatáu partneriaethau sifil mewn mannau addoli.

Bydd y llywodraeth hefyd yn caniatáu cynnwys elfennau crefyddol – gan gynnwys emynau a darlleniadau o’r Beibl – sydd wedi ei wahardd gan y gyfraith ar hyn o bryd.

Bydd ymgyrchwyr o blaid hawliau hoywon yn croesawu’r newidiadau, ond maen nhw’n debygol o gythruddo Ceidwadwyr traddodiadol a rhai grwpiau crefyddol.

Eglwys Lloegr

Mae’n debyg na fydd yna orfodaeth i grwpiau crefyddol ganiatáu priodasau hoyw yn eu mannau addoli.

Mae Eglwys Lloegr eisoes wedi dweud na fydd yn caniatáu i’w eglwysi gael eu defnyddio ar gyfer partneriaethau sifil.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod y Llywodraeth “yn ystyried y camau nesaf i bartneriaethau sifil”.

“Mae Gweinidogion wedi cwrdd ag ystod eang o bobol er mwyn clywed eu barn nhw ar y mater. Fe fydd penderfyniad yn fuan.”

Pawb a’i hawl

Dywedodd Archesgob Efrog, Dr John Sentamu, wrth raglen Andrew Marr na ddylai unrhyw un gael gorfodi grwpiau crefyddol i ganiatáu i gyplau o’r un rhyw briodi yn eu mannau addoli.

“Ni ddylai hawliau rhai pobol fod fwy pwysig nag hawliau pobol eraill,” meddai.