Milwyr yn Afghanistan
Mae Aelod Seneddol o Gymru am geisio gwneud yn siŵr bod y Cyfamod rhwng y Llywodraeth a’r lluoedd arfog yn dod yn fater o gyfraith.

Fe fydd Elfyn Llwyd, arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, yn gosod nifer o welliannau i Fesur Lluoedd Arfog y Llywodraeth ar ôl eu cyhuddo o fradychu’r milwyr.

Roedd yna ddyletswydd ar y Llywodraeth i weithredu’r Cyfamod, meddai, gan ddweud fod ganddo gefnogaeth gan aelodau o bob plaid.

Mae hefyd yn cyhuddo’r Llywodraeth o’i gadw yntau rhag cael lle ar y pwyllgor sy’n trafod y Mesur.

Gwella gofal

Mae Elfyn Llwyd wedi bod yn ymgyrchu ers tro tros wella’r gofal y mae cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog yn ei gael, gan ddweud bod llawer yn cael problemau cymdeithasol wedyn, gyda throseddau, cyffuriau a diffyg gwaith.

Yn ôl Elfyn Llwyd, mae dwywaith mwy o gyn-aelodau o’r Lluoedd yn y carchar nag sydd o filwyr Prydeinig yn Afghanistan.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd pennaeth y Lleng Brydeinig wedi condemnio’r methiant i gynnwys y Cyfamod yn y Ddeddf, er bod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi addo hynny yn y gorffennol.

Medden nhw

Yn ôl Chris Simpkins, doedd bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn i gyhoeddi adroddiad blynyddol am weithredu’r Cyfamod ddim yn ddigon da – plismona’u hunain oedd hynny, meddai.

“Gwleidyddion sy’n peryglu bywydau’r milwyr dewr yma,” meddai Elfyn Llwyd. “Mae gynnon ni ddyletswydd i sicrhau eu lles pan fyddan nhw’n dod adre’.

“Mae dim byd llai na hynny’n torri’r Cyfamod Milwrol.”