Donna Shaw (Llujn o wefan This is Derby)
Mae merch ifanc wedi dechrau trefnu ei hangladd ei hun ar ôl cael clywed y bydd hi’n marw o ganser.

Cafodd Donna Shaw, 17 oed, o Alvaston, Derby, wybod ei bod hi’n dioddef o ganser yr esgyrn ym mis Chwefror y llynedd.

Er iddi gael llawdriniaeth a chemotherapi mae wedi cael gwybod na fydd yn gwella, ac wedi rhoi’r gorau i’r driniaeth a dechrau cynllunio ei misoedd olaf a pob manylyn o’i hangladd.

Dywedodd ei bod hi wedi penderfynu marw gydag urddas ar ôl gweld cyfeillion iddi yn marw o ganser ar ei ward.

“Roedd un o fy ffrindiau yn bump oed a doedd o ddim yn gallu penderfynu drosto’i hun. Fe fuodd o farw ar 9 Ionawr, “ meddai.

“Roedd ei rieni wedi penderfynu ymestyn ei fywyd ac roedd o’n edrych fel sgerbwd.

“Os nad oeddwn i wedi gweld hynny mae’n siŵr y byddwn i wedi cytuno i barhau â’r driniaeth.”

‘Merch aeddfed’

Dywedodd ei mam Nikki Parker, 45, sydd wedi rhoi’r gorau i’w swydd mewn bwyty i ofalu am ei merch, fod Donna Shaw yn “ysbrydoliaeth i bawb arall”.

“Mae hi wedi ysgrifennu popeth i lawr. Mae hi wedi gofyn i chwe aelod o’r teulu a ffrindiau i gario ei harch,” meddai.

“Mae hi wedi dewis popeth, gan gynnwys y caneuon, fideo i’w ddangos yn yr angladd, a hyd yn oed lliw’r blodau.”

Dywedodd ei mam fod agwedd ei merch tuag at farwolaeth wedi gwneud y cyfan yn haws.

“Ar 6 Ionawr roedd apwyntiad gyda’r ymgynghorydd ac fe ddywedodd nad oedd y cemotherapi wedi gweithio,” meddai Nikki Parker.

“Fe griodd hi, a rhegi,  a gweddi, ond erbyn hyn mae hi wedi derbyn y peth.

“Dyw hi ddim yn ferch wirion, mae hi’n aeddfed iawn am ei hoedran. Ers i hyn ddigwydd mae hi wedi aeddfedu lot.

“Roedd yr ymgynghorydd wedi dweud nad oedd hi’n mynd i wella a dywedodd Donna nad oedd pwynt ymestyn ei bywyd.

“Fe fyddai hi wedi byw am ychydig fisoedd yn hirach ond roedd yn well ganddi farw adref gydag urddas.

“Fe allai hi farw yn ei chwsg unrhyw bryd neu fyw am ychydig fisoedd eto.”

Ychwanegodd eu bod nhw’n bwriadu mynd i weld band Westlife ym mis Mawrth, a Torvill a Dean ym mis Ebrill, os ydi Donna yn ddigon da.