Ian Tomlinson yn ystod y brotest
Fe fydd achos y plismon sydd wedi ei gyhuddo o ladd Ian Tomlinson yn ystod protest G20 yn Llundain yn cychwyn heddiw.

Fe fydd Pc Simon Harwood, 41, yn mynd gerbron Llys y Goron Southwark ar gyhuddiad o ladd y gwerthwr papurau newydd yn ystod protestiadau yng nghanol Llundain ym mis Ebrill 2009.

Bu farw Ian Tomlinson, 47, oedd yn ddigartref ar ôl cael ei daro gyda baton yr heddlu.