Alastair Campbell
Mae cyn gyfarwyddwr cyfathrebu Stryd Downing, Alastair Campbell, wedi dweud fod Rupert Murdoch wedi annog y Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair, i beidio ag oedi ynglŷn â’r rhyfel yn Irac.

Yn ei lyfr The Burden of Power: Countdown to Iraq, mae Alastair Campell yn dweud fod Rupert Murdoch wedi ffonio Tony Blair tair gwaith yn ystod mis Mawrth 2003, wythnos cyn y bleidlais ar y rhyfel yn erbyn Irac yn y Tŷ Cyffredin.

Wrth gyflwyno ei dystiolaeth o flaen Ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn ddiweddar, dywedodd Rupert Murdoch nad oedd wedi “gofyn i unrhyw Brif Weinidog am unrhyw beth.”

Ond fe ddywedodd y cyn Brif Weinidog John Major wrth yr ymchwiliad yn ddiweddarach fod Mr Murdoch wedi rhoi pwysau arno i newid polisi ynglŷn ag Ewrop yng nghanol y 1990au.

Dywedodd Alastair Campbell for Tony Blair ac yntau’n credu fod Rupert Murdoch wedi gwneud y galwadau ffôn i Stryd Downing yn 2003 er mwyn cefnogi achos y Gweriniaethwyr yn Washington.