David Cameron
Fe anfonodd Rebekah Brooks neges destun at David Cameron yn dweud, “yn broffesiynol, rydyn ni yn yr un cwch”.

Dyna un o’r pethau ddaeth i’r golau gerbron Ymchwiliad Leveson heddiw.

Yn y neges gan gyn-brif weithredwr News International – un o blith nifer a orchmynwyd gerbron yr ymchwiliad – roedd Rebekah Brooks hefyd yn nodi ei bod hi’n “gobeithio’r gorau” iddo cyn iddo roi araith bwysig.

Fe gafodd y neges ei darllen allan gan gyfreithiwr yr Ymchwiliad, Robert Jay QC, tra’r oedd yn holi David Cameron ynglyn â’i gyfeillgarwch clos gyda chyn-olygydd papur newydd The Sun, Rebekah Brooks.

“Roedd papur newydd The Sun wedi gwneud ei benderfyniad i gefnogi’r Torïaid, a throi ei gefn ar Lafur,” meddai David Cameron, yn amlwg yn anghyfforddus gyda’r holi.

“Roedd  The Sun eisiau gwneud yn siwr ei fod yn helpu’r Blaid Geidwadol i ddangos y polisïau ar eu gorau… Dyna mae’r neges yn ei olygu.

“Roeddan ni’n ffrindiau,” meddai David Cameron am Rebekah Brooks. “Ond, yn broffesiynol, fi fel arweinydd y Ceidwadwyr, hithau ym myd papurau newydd, roeddan ni’n ceisio gwthio yr un agenda wleidyddol.”

‘Penodiad dadleuol’

Mae David Cameron wedi cyfadde’ gerbron yr ymchwiliad heddiw fod penodi Andy Coulson fel cyfarwyddwr cyfathrebu yn benderfyniad sydd wedi chwarae ar ei feddwl.

Fe ddywedodd y Prif Weinidog fod rhoi gwaith i gyn-olygydd papur newydd The News of the World yn “benodiad dadleuol”.

Ond dywedodd David Cameron ei fod wedi mynnu bod Coulson yn cadarnhau nad oedd yn gwybod  dim am yr arfer o hacio ffonau symudol.

“Pam o’n i’n meddwl ei fod o’n haeddu cyfle arall?” meddai David Cameron. “Oherwydd fy mod i’n meddwl ei fod o wedi gwneud y peth anrhydeddus.

“Roedd rhywbeth drwg iawn wedi digwydd ar y papur yr oedd o’n ei olygu. Doedd o ddim yn gwybod am yr arfer, ac fe ymddiswyddodd.”

Roedd Andy Coulson wedi rhoi’r un cadarnhad i’r heddlu, Comisiwn Cwynion y Wasg ac i’r Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ar nifer o achlysuron, meddai David Cameron wedyn. Roedd pob un ohonyn nhwthau hefyd wedi derbyn ei air.

“… Dw i’n cydnabod fod hwn yn benodiad dadleuol,” meddai. “Mae wedi bod yn fwgan iddo fo ac i mi. Ond, o gael swydd cyfarwyddwr cyfathrebu Downing Street a’r blaid, fe wnaeth y gwaith yn effeithiol iawn.”