Mae ymchwil newydd yn dangos bod dilyn peiriannau satnav yn arwain at yrru mwy peryglus.

Os bydd gyrwyr yn gorfod dilyn mwy nag un darn o gyfarwyddyd, maen nhw’n dechrau gyrru’n gynt ac yn llai sicr, yn ôl adroddiad gan ddwy brifysgol.

Mae’r ymchwilwyr yn dweud bod eu gwaith yn dangos yr angen am gynllunio peiriannau satnav yn ofalus iawn.

Wrth ddilyn un cyfarwyddyd, doedd dim newid mewn safonau gyrru, meddai’r gwyddonwyr o Brifysgol Lancaster a’r Royal Holloway yn Llundain.

Ond pan oedd mwy nag un cyfarwyddyd yn dilyn ei gilydd, roedd gyrwyr yn mynd yn gynt, yn troi mwy ar y llyw ac yn llai tebyg o sylwi ar gerddwyr.