Mae’r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n pryderu am Brydeiniwr sydd wedi bod ar goll yn yr Aifft ers deg diwrnod. 

Mae’r Swyddfa Dramor wedi galw am awdurdodau yn yr Aifft i ddatgelu a gafodd Hisham Morsi ei arestio. 

Fe gafodd Hisham Morsi ei weld am y tro olaf yn cael ei dynnu allan o Sgwâr Tahrir, ond mae’n aneglur gan bwy ac a gafodd ei arestio. 

Mae Alistair Burt o’r Swyddfa Dramor wedi codi’r mater gyda llysgennad yr Aifft ym Mhrydain gan ddweud ei fod yn allweddol bod Cairo yn cadw at eu haddewid o beidio ag “arestio na phoeni newyddiadurwyr, tramorwyr ac aelodau’r wrthblaid.”

“Roedden ni wedi derbyn sicrwydd wrth lywodraeth yr Aifft nad oedd unrhyw brotestwyr yn parhau i fod yn y ddalfa,” meddai Alistair Burt. 

“Rwyf nawr yn galw ar awdurdodau’r Aifft i nodi a ydy Hisham Morsi wedi cael ei arestio neu beidio.  Os mae wedi cael ei arestio, fe ddylen nhw ddweud ymhle mae’n cael ei gadw a rhoi mynediad i’n llysgennad.”

Mae Llywodraeth yr Aifft wedi addo rhyddhau’r holl brotestwyr sydd wedi bod yn rhan o’r gwrthdystiadau. 

Fe ddaw’r apêl yma yng nghanol adroddiadau bod Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak ar fin cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo.