Mae dyn wedi marw mewn ysbyty ar ôl cael ei saethu gan heddlu yn Brighton.

Fe gafodd y dyn, sydd heb gael ei enwi, ei saethu yn Upper Rock Gardens yn y dref ychydig wedi 1.00 y prynhawn. 

Fe ddigwyddodd hyn yn ystod cyrch gan Heddlu Sussex i gael hyd i ddyn mewn cysylltiad â chyfres o droseddau dros y misoedd diwethaf. 

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymwybodol o’r digwyddiad ac maen nhw wedi anfon archwilwyr i leoliad y digwyddiad. 

“Mae Heddlu Sussex yn gallu cadarnhau bod dyn gafodd ei saethu gan swyddogion arfog yn Brighton wedi marw mewn ysbyty,” meddai’r heddlu mewn datganiad.