Helen Johnston
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi canmol y milwyr o Brydain a’r Unol Daleithiau wnaeth achub gweithiwr dyngarol o Brydain a thri arall gafodd eu herwgipio yng ngogledd ddwyrain Affganistan bron i bythefnod yn ôl.
Cafodd Helen Johnston sy’n 28 oed , Moragwe Oirere, 26 o Kenya a dau weithiwr sifil o Affganistan eu herwgipio gan grŵp sy’n gysylltedig efo’r Taliban tra roeddyn nhw’n teithio i fynd a chymorth i drigolion ardal Badakhshan ar ran mudiad dyngarol Medair o’r Swisdir.
Cafodd pump o bobl eu hergiwpio ar 22 Mai ond llwyddodd un dyn o Affganistan i ddianc.
Dywedodd Mr Cameron ei fod wedi gorchymun i’r milwyr fynd i achub y pedwar ddoe am ei fod yn pryderu yn arw am eu dioglewch.
Roedd yn rhaid i’r milwyr gerdded am filltiroedd dros dirwedd anodd iawn heb i’r herwgipwyr ddod i wybod am y cyrch cyn cyrraedd y fan lle roedd y gweithwyr ganol nos neithiwr.
Cafodd pump o’r herwgipwyr eu lladd yn ystod y cyrch ac mae’r heddlu lleol yn yr ardal yn dweud eu bod nhw i gyd yn aelodau o gangiau o droseddwyr sy’n manteisio ar ddiffyg rheolaeth y lluoedd diogelwch Affgan yn yr ardal.
Penderfynwyd peidio rhyddhau’r newyddion am yr herwgipio cyn heddiw rhag ofn i’r gwystlon gael eu lladd.
Y teulu ‘wrth eu bodd’
Mae teulu Ms Johnston wedi datgan eu bod wrth eu boddau o glywed bod eu merch yn ddiogel.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb fu’n gyfrifol am ei hachub, i’r rhai sydd wedi gweithio yn ddiflino ar ei rhan ac i’r teulu a ffrindiau am eu cariad, gweddïau a’u cefnogaeth dros y 12 diwrnod diwethaf.”
Mae Gweinidog Tramor Kenya hefyd wedi diolch i lywodraeth Prydain, Medair a’r lluoedd am eu cymorth yn rhyddhau Ms Oirere.
Mae Ms Johnston a Ms Oirere yn Uwch Gomisiwn Prydain yn Nairobi ar hyn o bryd ac mae’r awdurdodau yn dweud eu bod nhw mewn cyflwr da.
Cafodd criw o weithwyr meddygol eu lladd yn ardal Badakhshan wedi ymosodiad yn 2010.