Tony Blair
Fe fydd Tony Blair yn cael ei holi heddiw am ei berthynas gyda’r cyfryngau wrth iddo roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson.

Fe fydd y cyn Brif Weinidog yn wynebu cwestiynau am natur ei gysylltiadau gyda Rupert Murdoch yn ystod ei 13 mlynedd fel arweinydd y Blaid Lafur a 10 mlynedd yn Downing Street.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad holi a oedd wedi gadael i’w berthynas gyda Rupert Murdoch a News International fod yn rhy agos, fel roedd yr Arglwydd Mandelson wedi dweud wrth yr ymchwiliad wythnos ddiwethaf.