Ben Nevis
Dylai cannoedd o drigolion Ucheldiroedd yr Alban a rhannau o Swydd Aberdeen weithredu er mwyn diogelu ei hunain rhag effaith nwy naturiol Radon yn ôl Asiantaeth Gwarchod y Cyhoedd y wlad.

Mae Radon yn nwy ymbelydrol sy’n codi o yr ychydig o uranium naturiol sydd  i’w gael mewn cerrig a phridd mewn rhai ardaloedd ym Mhrydain.

Er bod y lefelau yn isel, mae ystadegau yn profi bod Radon yn gyfrifol am dros 1,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

Anfonwyd dros 2000 o becynnau profi am y nwy i gartrefi mewn rhai ardaloedd yn yr Alban llynedd ac mae na lefelau uwch na’r arferol yn 800 ohonyn nhw.

“Rydym yn annog y rhai sy’n byw yn y tai yma i gysylltu efo ni a darganfod rhagor am Radon a sut i ymateb i’r perygl,” meddai’r Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Michael Matheson.

“Does dim modd ogleuo na gweld Radon ond rydyn ni’n gwybod lefelau uwch na’r hyn sy’n ddiogel mewn cartefi ar hyd gogledd yrAlban. Mae peidio delio efo’r lefelau uchel yn cynyddu yr adwaith posibl i’r nwy ac yn y tymor hir gall greu perygl go iawn i iechyd,”meddai.