Engelbert Humperdinck
Y gantores Loreen o Sweden enilliodd cystadleuaeth cân Eurovision yn Baku, Azerbaijan neithiwr gyda’r gân oedd yn ffefryn o’r cychwyn,  ‘Euphoria’.

‘Buranovskiye Babushki’ sef criw o ferched oedrannus o Rwsia ddaeth yn ail.

Daeth Engelbert Humperdink, oedd yn canu cân y DU yn olaf ond un efo 12 pwynt, un pwynt yn fwy na Norwy sydd wedi hen arfer fod ar waelod y rhestr, gan amlaf efo ‘nul point’.

Doedd hyd yn oed gwisgo cadwyn lwcus roddwyd iddo gan Elvis Presely yn ddigon i Engelbert, sy’n 76 oed, gario’r dydd efo’r gân serch “Love will set you free.” Dim ond Gwlad Belg, Latfia ac Estonia wnaeth bleidleisio dros y DU.

‘Fe wnês fy ngorau dros fy ngwlad” meddai Englebert. “Mae Eurovision wedi bod yn brofiad bendigedig.”