Y Farwnes Warsi
Mae’r Blaid Lafur yn galw am ychwiliad i ymddygiad cyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol, Y Farwnes Warsi, yn dilyn cyhoeddi honniadau ei bod wedi hawlio treuliau fel aelod o Dŷ’r Arglwyddi tra’n aros am ddim yng nghartref ffrind yn Acton, Gorllewin Llundain.

Yn ôl adroddiadau yn y Sunday Times a’r Sunday Telegraph, bu’n aros efo swyddog arall efo’r Ceidwadwyr, Naweed Khan, sawl gwaith yn ystod 2008 gan hawlio treuliau dros nos o £165.50 fel aelod o Dŷ’r Arglwyddi.

Roedd Naweed Khan yn rhentu rhan o’r tŷ ar y pryd ac mae’r Farwnes Warsi yn dweud ei bod wedi gwneud ‘tâl priodol’ am gael aros yno ond nid yw’n glir os ydi’r tâl wedi cael ei wneud i berchennog y tŷ.

Dywedodd y Farwnes ei bod wedi prynu fflat yn 2007 a gan nad oedd yn barod ar y pryd, roedd wedi aros ran amlaf mewn dau westy gan dreulio “ambell noson” yng nghartref Naweed Khan.

Mae’r Aelod Llafur John Mann wedi dweud ei fod yn bwriadu gofyn i gomisiynydd safonnau Tŷ’r Arglwyddi ymchwilio i’r honniadau.

“Os ydych chi ddim yn talu rhent am lle rydych chi’n aros yna fedrwch chi ddim hawlio treuliau am aros yno,”meddai. “Mae’r cyfan yn edrych yn go amheus i mi. Rydan ni angen ymchwiliad llawn i’r mater,”ychwanegodd.

Fflat yn Wembley

Mae’r Farwnes Warsi wedi cael ei beirniadu hefyd am beidio datgelu incwm am osod ei fflat yn Wembley ar Gofrestr Diddordebau aelodau Tŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd y Farwnes mai camgymeriad oedd hyn gan ei bod wedi datgelu’r incwm i Swyddfa’r Cabinet ac i Gyllid y Wlad.

Mae aelodau o Dŷ’r Arglwyddi i fod i ddatgelu incwm o dros £500 ac mae’r incwm blynyddol o osod fflat yn Llundain yn debygol o fod yn llawer uwch na hyn.