Mae'r protestwyr yn targedu Nick Clegg
Mae hyd at 100 o bobl sy’n protestio yn erbyn toriadau Llywodraeth Prydain wedi ymgynnull y tu allan i gartre’r Dirprwy Prif Weinidog Nick Clegg yn Llundain.

Mae’r grŵp UK Uncut, sy’n cynnal protestiadau partïon stryd mewn deg dinas ym Mhrydain, yn dweud eu bod nhw wedi targedu Mr Clegg gan ei fod e yn “un o benseiri’r caledi.”

Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod protestwyr anabl wedi clymu eu cadeiriau olwyn ar ddau ben Ffordd Parkfield yn Putney.

Meddai Jean Sandker, un o gefnogwyr UK Uncut, “Dewis gwleidyddol gan y llywodraeth a’r cabinet o filiwnyddion sydd allan o gysylltiad ydi’r toriadau, maen nhw’n ddianghenraid.

“Mae’r toriadau creulon yma wedi eu cynllunio i ddinistrio ei gwasanaethau cyhoeddus, y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, y Wladwriaeth Les a’n dyfodol. Mae’r toriadau’n mynd yn bersonol, felly hefyd ein protestiadau ni.”

Dywed y grŵp fod partïon stryd yn cael eu cynnal yn Bournemouth, Crawley, Derby, Leeds, Manceinion , Newcastle-upon-Tyne, Nottingham, Sheffield ac Efrog.