Jeremy Hunt
Mae mwy o bwysau ar ysgwyddau Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt, heddiw yn dilyn datgelu mwy o wybodaeth am ei berthynas â lobïwr oedd yn gweithio i gwmni News Corporation.

Datgelwyd yn Ymchwiliad Leveson ddoe fod Mr Hunt wedi galw’r lobïwr Frederic Michel yn “daddy” ac yn “mon ami” mewn dwsinau o negeseuon tecst cyfeillgar a hwyliog ato bob awr o’r dydd a nos.

Mi roedd Michel wedi ymateb gyda sylwadau sebonllyd gan sôn am stamina’r Ysgrifennydd a’i berfformiadau “gwych” mewn cyfweliadau teledu ac yn Nhŷ’r Cyffredin.

Bydd Jeremy Hunt yn ymddangos o flaen Ymchwiliad Levenson dydd Iau nesaf.

Caiff ei holi’n fanwl ynglŷn â chysylltiad ei swyddfa ef â chwmni News Corporation yn ystod y cyfnod pan oedd y cwmni hwnnw’r ceisio prynu BSkyB.

Bydd Vince Cable, Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, hefyd yn rhoi tystiolaeth yr wythnos nesaf, ynghyd â’r cyn Prif Weinidog, Tony Blair.