Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint wedi cefnogi’r galwadau i roi hawl i garcharorion bleidleisio.
Yn ôl Dr Rowan Williams, ddylai statws carcharorion fel dinasyddion ddim cael ei roi “o’r neulltu” tra’u bod nhw dan glo.
“Mae angen i Brydain symud y tu hwnt i’r sefyllfa lle mae carchrorion yn cael cosb bellach twy wadu eu hawliau sylfaenol fel dinasyddion,” meddai.
Daw ei ddatganiad brin wythnos wedi i Bwyllgor Diwygio Cyfansoddiadol a Gwleidyddol Tŷ’r Cyffredin ddod i’r casgliad fod y gwaharddiad cyffredinol ar garcharorion rhag pleidleisio yn “anghyfreithlon ar sail cyfraith rhyngwladol.”
Bydd Aelodau Seneddol yn trafod y gwaharddiad a sefyllfa Prydain yn y Senedd yfory, cyn pleidleisio ar y mater yn ddiweddarach.
‘Agor y llif-ddorau’
“Pe bai Prydain yn colli golwg ar y carcharor fel dinesydd, gallai hynny gael effaith ar nifer o bethau,” rhybuddiodd yr Archesgob.
“Mae ystyried y carcharor fel dinesydd yn golygu y gall y carcharorion a’r cyhoedd fod yn sicr bod eu hurddas fel dinesydd yn cael ei ystyried yn yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw.
“Ac mae’n rhesymol i ni ddisgwyl y bydd y system gosbi yn cyfrannu, yn hytrach na thynnu oddi wrth, gallu’r unigolyn i ymddwyn fel dinesydd mewn amgylchiadau eraill.”
Mae’r Llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried caniatau y bleidlais i bob carcharor sy’n treulio llai na pedair mlynedd dan glo, yn sgîl penderfyniad gan Lys Hawliau Dynol Ewrop.
Ond mae anfodlonrwydd nifer yn y Llywodraeth gyda’r bwriad i roi’r bleidlais i garcharorion yn awgrymu y gallai’r cynnig gael ei newid i ganiatau’r bleidlais i’r rhai sydd dan glo am flwyddyn neu llai.
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Ken Clarke, wedi cyfaddef y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth weithredu yn unol â chyfreithiau Ewrop a hawliau dynnol.
“Mae’n rhaid i ni wireddu ein dyletswyddau, ond fyddwn ni ddim yn rhoi’r bleidlais i mwy o garcharorion nag sy’n rhaid er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.”