Jeremy Hunt
Mae’r pwysau’n cynyddu ar Jeremy Hunt heddiw ar ôl i un o lobiwyr News Corporation awgrymu bod yr Ysgrifennydd Diwylliant yn gwybod ei fod yn cael manylion am y cais i brynu BSkyB.

Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw, dywedodd Fred Michel ei fod yn credu bod y wybodaeth a dderbyniodd mewn galwadau ffôn, e-byst a negeseuon tecst gan yr ymgynghorydd Adam Smith, wedi cael eu “trafod” o flaen llaw gyda Jeremy Hunt.

Ond roedd Michel yn gwadu honiadau ei fod wedi gor-bwysleisio ei berthynas gydag aelod o dîm y Cabinet er mwyn plesio Rupert a James Murdoch.

Fe fydd Adam Smith –  a adawodd ei swydd fel ymgynghorydd arbennig Jeremy Hunt fis diwethaf ar ôl cyfaddef bod ei gysylltiad gyda Fred Michel yn rhy agos – yn rhoi tystiolaeth prynhawn ma.