David Cameron
Dywedodd David Cameron heddiw y bydd yn herio dyfarniad llys Ewropeaidd i orfodi’r DU i roi hawliau pleidleisio i garcharorion.

Mynnodd y Prif Weinidog bod y penderfyniad yn fater i Aelodau Seneddol ac nid “llys o dramor”.

Mae Llys Iawnderau Dynol Ewrop wedi rhoi chwe mis i Brydain newid y gyfraith.

Ond dywedodd David Cameron heddiw ei fod yn cefnogi ASau oedd wedi pleidleisio’n unfrydol y llynedd o blaid gwrthod dyfarniad y llys.

Dywedodd ei fod yn credu y dylai person sy’n cael ei anfon i garchar golli rhai hawliau, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio.