Ed Miliband
Mae arweinwyr byd yn anghydweld ynglŷn â sut i fynd i’r afael â dyledion gwledydd parth yr ewro, a’r argyfwng economaidd, meddai Ed Miliband heddiw.

Mae arweinydd y Blaid Lafur yn cyhuddo’r arweinwyr o fethu â dod i gytundeb ynglŷn â thorri gwariant a hybu’r economi.

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol bod ’na rwyg rhwng y rhai sy’n credu bod angen canolbwyntio ar dwf yr economi ac eraill sy’n credu bod angen parhau i dorri gwariant.

Ond mae’r Prif Weinidog David Cameron yn mynnu bod yr arweinwyr wedi dod i gytundeb yn ystod cynhadledd G8 dros y penwythnos ynglŷn â sut i hybu’r economi a mynd i’r afael â dyledion.

Dywedodd Ed Miliband nad oedd toriadau wedi gweithio ym Mhrydain nac ar y cyfandir ac mae wedi galw am gynlluniau newydd i dorri nifer y rhai sy’n ddi-waith a hybu’r economi.