Carchar Caerdydd
Byddai gwario llai ar ddatblygu rhaglen o gosbau amgen i droseddwyr a’u rhoi dan glo yn costio mwy i’r Llywodraeth yn y tymor hir, gyda mwy o garcharorion yn dychwelyd i’r carchar.

Dyna yw’r rhybudd sydd wedi ei leisio gan unigolion dylanwadol sy’n cynnwys cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Met, yr Arglwydd Blair, a’r Fonesig Anne Owers, cyn-Brif Arolygydd Carchardai, brin fis cyn i ariannu rhaglen ymchwil yr Opsiynau Dwys yn lle Carcharu ddod i ben.  

Does dim bwriad dynodi rhagor o arian ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd, sy’n golygu bod posibilrwydd y bydd yn rhaid ei ollwng.  

Mewn llythr ar y cyd at y Times, wedi ei arwyddo gan gynrhychiolwyr o Asiantaeth yr Ynadon, ymgyrch Make Justice Work, a’r elusen gostwng troseddi Nacro, dywedodd yr awduron eu bod nhw “yn gwybod fod y rhaglen yn darparu dedfrydau hirach a llymach yn y gymuned, sy’n gweithio’n well, ac sy’n costio llawer llai yn y tymor byr na dedfryd dan glo.”  

Ymatebodd llefarydd ar ran y Weinidogaeth Gyfiawnder trwy ddweud “nad ydyn ni’n gollwng y rhaglen Opsiynnau Dwys yn lle Carcharu. Rydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried cynlluniau eraill er mwyn ystyried sut mae gwneud y rhaglen mwy blaenllaw ond o fewn y fframwaith sydd eisioes yn bodoli.”