Jeremy Hunt
Fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau bod yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt wedi methu â chofnodi rhoddion gan gwmniau cyfryngau.

Mae’r Comisiynydd Safonnau Seneddol Syr John Lyon yn cynnal ymchwiliad yn dilyn cwyn gan yr Aelod Seneddol Llafur Steve McCabe.

Mae’n ymwneud â chyfarfodydd oedd wedi eu trefnu gan gwmniau preifat rhwng mis Gorffennaf 2009 a Mawrth 2010 lle roedd Jeremy Hunt ac Ed Vaizey yn bresennol.

Roedd y cyfarfodydd yn cael eu disgrifio fel cyfle i aelodau blaenllaw o’r Blaid Geidwadol “ryngweithio” gyda phobl yn y diwydiant cyfryngau.

Eisoes, mae’r Blaid Lafur wedi galw ar Jeremy Hunt i ymddiswyddo yn dilyn “tystiolaeth” bod ei berthynas gyda News International yn rhy agos pan oedd cwmni Rupert Murdoch yn ceisio prynu BSkyB.

Ond mae Jeremy Hunt wedi wfftio’r galwadau gan ddweud nad oedd wedi gwneud unrhywbeth o’i le.

Ymchwiliad

Mae ymchwiliad Syr John Lyons yn ymwneud â honiadau ar wahan ynglŷn ag ymddygiad Jeremy Hunt cyn i’r Ceidwadwyr ddod i rym.

Roedd y gweinidog diwylliant Ed Vaizey wedi cofnodi ei fod ef a Jeremy Hunt wedi mynychu wyth digwyddiad rhwng mis Gorffennaf 2009 a Mawrth 2010. Fe gofnododd Ed Vaizey y digwyddiadau fel rhoddion gwerth £27,000 sef ei amcangyfrif ef o’r gost o gynnal y digwyddiadau.

Ond mae’n ymddangos nad oedd Jeremy Hunt wedi cofnodi’r cyfarfodydd o dan ei enw yn y cofnod. Mae wedi honi mai dim ond tri o’r wyth cyfarfod roedd wedi mynychu a dywedodd ei lefarydd heddiw ei fod eisoes wedi cywiro’r cofnod ers i’r cwyn gael ei wneud.

Ychwanegodd y llefarydd y byddai Jeremy Hunt yn cydweithio’n llawn â’r ymchwiliad.