Tony Blair
Mae’n bosib y bydd y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, yn rhan o’r ymgyrch o blaid cadw’r Deyrnas Unedig ynghyd.
Datgelodd y cyn-Ganghellor Alistair Darling heddiw y gallai Tony Blair fod yn rhan o’r ymgyrch ‘na i annibyniaeth’ yn yr Alban.
Ychwanegodd Alistair Darling ei fod yn croesawu adroddiadau bod Tony Blair am ddychwelyd i wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig.
“Mae ganddo lawer iawn i’w gyfrannu ac rydw i’n gobeithio y bydd yn cyfrannu rhagor yn y dyfodol,” meddai wrth raglen fore Sul Andrew Marr.
“Cyd-destun hynny ydi fod rhagor o bobol yn cydnabod bod angen tyfu’r economi, neu fe fydd y farchnad swyddi yn dirywio.
“Mae disgyrchiant gwleidyddol y wlad yn symud yn ôl i’r chwith. Mae’n amlwg fod hynny wedi codi ofn ar y Ceidwadwyr.
“Dyma pam bod David Cameron wedi dechrau galw am dwf economaidd yn Ewrop, rhywbeth y mae wedi methu ei wneud yn ystod dwy flynedd yn Brif Weinidog.”
Dywedodd Alistair Darling na fyddai’n ei chael hi’n anodd cydweithio â gelynion gwleidyddol ar yr ymgyrch ‘Na i Annibyniaeth’.
“Fe fyddai yn wirion bost peidio cydweithio â rhywun sy’n cytuno â fi,” meddai.
“Rydw i’n meddwl y bydd yna gynghreiriaid rhyfedd iawn ar ochor arall y ddadl hefyd.”