Mae Scotland Yard wedi gwahardd Luke Smith
Roedd heddwas rhan-amser yn euog o weiddi sylwadau hiliol at weithiwr trên, ar ôl cael ei gyhuddo o drio osgoi talu ei ffêr.

Doedd Luke Smith, 27 oed, ddim yn gweithio ar y pryd, pan ddechreuodd y ffrae ar y trên rhwng gorsafoedd Gatwick a Dwyrain Croydon.

Mae Heddlu Llundain, sydd wedi dod dan y lach yn ddiweddar yn dilyn nifer o honiadau o hiliaeth, wedi disgrifio ymddygiad y swyddog fel “gwarthus”.

Fe gafodd Luke Smith, o Carey Gardens, Wandsworth, de Llundain, ei ddirwyo yn Llys Ynadon Croyson, ond fe’i cafwyd yn ddieuog o osgoi talu am docyn trên. Mae wedi cael ei wahardd gan Scotland Yard.

“Mae’r math yma o ymddygiad yn warthus,” meddai’r Commander Peter Spindler, cyfarwyddwr safonau proffesiynol Heddlu Llundain.

“Dydan ni ddim yn fodlon derbyn y math yma o ymddygiad gan swyddogion – p’un ai ydyn nhw wrth eu gwaith ai peidio. Rydan ni’n dargyfeirio’r mater hwn i’r uned camymddwyn.”