Bydd perthynas Jeremy Hunt a News International dan y chwydd-wydr eto
Fe fydd cyn-ymgynghorydd arbennig y Gweindog Diwylliant, Jeremy Hunt, yn gorfod ymddangos o flaen Ymchwiliad Leveson yr wythnos nesa’.

Fe fydd Adam Smith yn gorfod ateb cwestiynau, ynghyd â lobïydd News Corporation, Frederic Michel, ddydd Iau nesa’.  

Fe ymddiswyddodd Adam Smith y mis diwetha’ oherwydd ei ymwneud â Frederic Michel yn achos gwerthu rhanddaliadau yng nghwmni BskyB.

O glywed eu tystiolaeth, fe fydd y pwyllgor sy’n cynnal yr ymchwiliad yn edrych eto ar beth yn union oedd rhan Jeremy Hunt yn y broses.

Hefyd yr wythnos nesa’…

Fe fydd rhes o gyn-weinidogion y llywodraeth Lafur hefyd yn ymddangos o flaen bwyllgor Leveson yr wythnos nesa’, yn cynnwys yr Arglwydd Mandelson, yr Arglwydd Reid, Tessa Jowell ac Alan Johnson.

Fe fydd yr Aelod Seneddol Llafur, Tom Watson, sydd wedi bod yn ffyrnig ei wrthwynebiad a’i feirniadaeth o gwmni News International, hefyd yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad, ynghyd â’r newyddiadurwyr teledu Jeremy Paxman ac Andrew Marr.