Bydd pump o achosion iawndal yn cael eu clywed yn yr Uchel Lys yn yr hydref
Mae’r gwr a dreuliodd wyth mlynedd dan glo ar ôl cael ei garcharu ar gam yn achos llofruddiaeth y gyflwynwraig deledu, Jill Dando, yn bwriadu ymladd achos iawndal.

Fe gafodd Barry George, 52 oed, ei ddyfarnu’n ddieuog  mewn ail achos yn 2008, ac mae’n un o bump o bobol a fydd yn mynd a’u hachosion iawndal i’r Uchel Lys yn Llundain yr hydref hwn. Mae barnwr wedi rhoi’r hawl iddyn nhw wneud hynny mewn gwrandawiad heddiw.  

Fe fydd y pump achos yn codi cwestiwn ynglyn â phwy sydd gan yr hawl i fynnu iawndal ar ôl camweinyddu cyfiawndwr.

Fe fethodd Barry George mewn achos blaenorol i wneud cais am arian er mwyn gwneud yn iawn am golli gwaith a chael ei garcharu ar gam. Roedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder o’r farn nad oedd yn haeddu iawndal.

Ond heddiw, trwy ei gyfreithiwr, mae Barry George yn dweud ei fod yn “hapus iawn” o ddeall y byddai ei achos yn cael ei glywed yn ddiweddarach eleni. Mae eto i glywed a fydd yn derbyn cymorth cyfreithiol er mwyn talu i ymladd yr achos.