Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc
Mae David Cameron a Francois Hollande yn ymuno gydag arweinwyr rhyngwladol mewn cynhadledd G8 yn yr Unol Daleithiau.

Mae David Cameron wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd ef ac Arlywydd Sosialaidd Ffrainc yn canfod “tir cyffredin”. Cafodd Hollande ei ethol ar addewid o roi tŵf cyn toriadau llym.

Mewn erthygl ar wefan Politics Home dywedodd David Cameron mai ei fwriad yn nhrafodaethau’r G8 yw sicrhau tŵf i economi Prydain.

Mae trafferthion yr Ewro yn mynd i fod ar flaen yr agenda yn Washington wrth i wledydd ofidio y gall y trafferthion ledaenu.

“Peri gofid”

“Mae sefyllfa’r Ewro yn peri gofid,” meddai David Cameron

“Mae gan Brydain fanteision achos mae gyda ni ein harian ein hunain, ein banc canolog ein hunain, llywodraeth gref, cynllun cryf i leihau dyled a mae ein banciau ni’n gryf.

“Ond os yw pethau’n mynd o chwith o fewn yr Ewro yna bydd hynna’n cael effaith arnon ni achos dyna ble mae 40% o’n masnach ni.”