Mae llanc 15 oed yn wynebu dedfryd o garchar am oes ar ôl ei gael yn euog o drywannu myfyriwr i farwolaeth mewn ffrae ynglŷn â choncyrs.

Yn yr Old Bailey, cafwyd y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn euog o lofruddio’r myfyriwr Steven Grisales, 21 fis Awst y llynedd.

Bu farw  Steven Grisales ar ôl iddo fynd i gael gair gyda llanciau oedd yn taflu concyrs.

Roedd yn cerdded tuag at orsaf Silver Street yn Edmonton, gogledd Llundain pan ymosodwyd arno.

Roedd y bachgen wedi beio llanc arall am drywannu Steven Grisales, ond cafodd ei ffilmio ar deledu cylch cyfyng.

Mae’r llanc yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu fis nesaf.