Y ty yn Derby lle bu farw chwech o blant
Mae tad chwech o blant gafodd eu lladd mewn tân mewn tŷ yn Derby wedi rhyddhau datganiad yn diolch i’r gwasanaethau tân am eu hymdrechion i achub ei blant.

Dywedodd Mick Philpott, 54, bod organau ei fab 13 oed, Duwayne, wedi cael eu rhoi er mwyn achub bywyd plentyn arall.

Credir bod y tân yn Allenton wedi ei gynnau’n fwriadol. Yn ystod y gynhadledd i’r wasg dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Sir Derby, Steve Cotterill bod y tân wedi cychwyn wrth y blwch llythyrau yn nrws ffrynt y tŷ. Roedd yr ymchwiliad hefyd yn dangos bod petrol wedi cael ei ddefnyddio i gynnau’r tân.

Bu farw Jade Philpott, 10, ei brodyr John, 9, Jack, 7, Jessie, 6, a Jayden, 5, yn y tân yn ystod oriau mân fore dydd Gwener. Bu farw Duwayne Philpott o’i anafiadau yn yr ysbyty yn Birmingham yn ddiweddarach.

Credir bod Mick Philpott yn dad i 17 o blant ac mae’n adnabyddus yn y gymuned leol oherwydd adroddiadau yn y cyfryngau am ei deulu estynedig.