Mae’r Ysgrifennydd Cartref “ar fin dinistrio gwasanaeth yr heddlu” yn ôl swyddogion yr heddlu heddiw.

Fe fydd cynlluniau Theresa May, y rhai mwyaf radical ers 30 mlynedd, yn newid y ffordd mae’r gwasanaeth yn plismona, meddai Ffederasiwn yr Heddlu.

Daw’r rhybudd wrth i Theresa May baratoi i annerch cynhadledd flynyddol y ffederasiwn yn Bournemouth, lai nag wythnos ar ôl i 30,000 o blismyn orymdeithio drwy Llundain i brotestio yn erbyn newidiadau i’w cyflog, ac amodau gwaith.