Mae aelod o staff o Gyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi cael ei arestio heddiw gan dditectifs sy’n ymchwilio i daliadau anghyfreithlon i swyddogion cyhoeddus.

Mae’r dyn 50 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus.

Dywed Scotland Yard bod dynes 43 oed hefyd wedi ei harestio yn y tŷ yng ngogledd orllewin Llundain. Mae hi’n cael ei holi ar amheuaeth o gynorthwyo ac ategu camymddygiad mewn swydd gyhoeddus.